'Mae'n ddiwrnod hanesyddol, arwyddocaol'

Mae aelodau'r cyhoedd wedi dechrau mynd heibio arch y Frenhines Elizabeth yn Neuadd Westminster wedi ei siwrne olaf o Balas Buckingham brynhawn Mercher.

Bydd corff y Frenhines yn gorffwys yn y neuadd tan ddiwrnod ei hangladd gwladol ddydd Llun.

Roedd miloedd o bobl yn dyst i'r orymdaith ar hyd y Mall a thrwy Whitehall i Balas Westminster, wrth i'r Brenin Charles III ac aelodau eraill y Teulu Brenhinol gerdded tu ôl i'r arch.

Roedd cannoedd yn y neuadd ar gyfer y gwasanaeth i dderbyn yr osgordd, gan gynnwys cynrychiolwyr gwleidyddol pedair gwlad y DU.

Yn eu plith, roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Llywydd y Senedd, Elin Jones.