Brenin o gymydog 'sydd â rhywbeth i ddweud wrth bawb'
Ddyddiau wedi i'r Brenin Charles III etifeddu'r Goron, mae trigolion pentref gwledig yn Sir Gâr â rheswm arbennig i ddilyn ei hynt gyda diddordeb.
Ag yntau'n Dywysog Cymru ar y pryd, fe brynodd stad wyliau Llwynywermod ym Myddfai ger Llanymddyfri 15 mlynedd yn ôl.
Dyna oedd ei gartref pan roedd yn ymweld â Chymru ac fe ddaeth pobl leol i arfer â'i weld yn ystod yr achlysuron yna, yn yr eglwys neu'n cerdded ar y llwybrau.
Maen nhw'n amau efallai na fydd yn cael yr un cyfleoedd, ag yntau nawr yn Frenin, i dreulio amser yn Llwynywermod - ond mae ambell yn un dyfalu: a fydd Tywysog a Thywysoges newydd Cymru'n ymweld â Myddfai, yn hytrach, yn y dyfodol?