Arweinwyr gwleidyddol yn canu 'Hen Wlad Fy Nhadau'

Mae'r Brenin Charles III yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf ers iddo etifeddu'r Goron.

Fe gyrhaeddodd Cadeirlan Llandaf gyda'r Frenhines Gydweddog, Camilla ar gyfer gwasanaeth coffa - y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Roedd nifer o wynebau cyfarwydd o'r byd gwleidyddol a thu hwnt yn rhan o'r gwasanaeth yn y Gadeirlan, gan gynnwys Prif Weinidog newydd y DU, Liz Truss, ar ei hymweliad cyntaf â Chymru ers dod i'r swydd.

Fe ymunodd â gweddill y gynulleidfa i ganu 'Hen Wlad Fy Nhadau' a 'God Save the King' i gloi'r gwasanaeth.