Brenin Charles III yn annerch y Senedd yn y Gymraeg

Mae'r Brenin Charles III yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf ers iddo etifeddu'r Goron.

Mewn araith hanesyddol ddwyieithog yn siambr Senedd Cymru, dywedodd y Brenin bod Cymru â "lle arbennig" yng nghalon ei fam.

Dywedodd yn Gymraeg: "Diolch o galon am eich geiriau caredig."

Bu'n "fraint i fod yn Dywysog Cymru am mor hir", meddai, cyn dweud bod gan ei fab, William - Tywysog newydd Cymru - "gariad mawr at Gymru".

Dywedodd bod y "teitl hynafol" yn dyddio o gyfnod "arweinwyr mawrion Cymreig fel Llywelyn ap Gruffydd, y mae'r cof amdanynt, yn gywir yn dal yn cael eu hanrhydeddu".

Ychwanegodd: "O fod wedi ymweld â'r Senedd yn rheolaidd ers ei sefydliad, ac ar ôl clywed eich geiriau o'r galon heddiw, mi wn ein bod oll yn rhannu'r ymroddiad dwysaf i les pobl y wlad hon, ac y byddwn oll yn parhau i weithio gyda'n gilydd i'r perwyl hwnnw."