Ambiwlans Awyr: 'Modd i fi gyrraedd ysbyty mewn saith munud'

Wrth i gyfarfod cyhoeddus gael ei gynnal nos Wener i drafod dyfodol yr Ambiwlans Awyr yn y canolbarth dywed un ffermwr a gafodd ddamwain yn 2001 bod y gwasanaeth yn gwbl allweddol.

Mae cynlluniau ar y gweill i symud yr hofrennydd a'r cerbyd ymateb brys yn Y Trallwng i'r gogledd - penderfyniad sydd wedi cythruddo ymgyrchwyr wrth iddyn nhw ddatgan "pryder gwirioneddol".

Yn ôl yr elusen, canoli'r ddarpariaeth yn y gogledd a'r de yw'r "ffordd fwyaf effeithlon o ddefnyddio adnoddau".

Cafodd Alun James ddamwain ar fferm ym mhentre' Gwynfe yn Sir Gâr.

Cafodd ei wasgu gan beiriant amaethyddol ym mis Ebrill 2001 a chafodd ei gludo i ysbyty Treforys gan ambiwlans awyr dim ond rhyw chwe wythnos ar ôl i'r gwasanaeth gael ei lansio.

Mae Alun - sydd nawr yn byw ger Aberystwyth - wedi cefnogi'r elusen byth ers hynny, ac yn awyddus i weld hofrennydd yn aros yn y canolbarth.