Ail gartrefi yn 'eithrio pobl leol' o'r farchnad dai

Ddydd Mawrth bydd cabinet Cyngor Gwynedd yn penderfynu a ddylai lansio ymgynghoriad ar gynyddu'r dreth ar ail gartrefi i hyd at 300%.

Cyn y trafodaethau, mae arweinydd y cyngor wedi pwysleisio na ddylai unrhyw fesurau ychwanegol daro'r economi dwristiaeth leol.

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn: "Da ni angen bod yn ofalus ein bod, gyn belled ag y gallwn, yn gwarchod yr economi dwristiaeth leol.

"Nid dyna'n bwriad ni wrth alw am weithredu ar ochr ail gartrefi, ein bwriad ni ydi cael rheolaeth ar y gosod tymor byr yma sy'n tynnu tai annedd allan o'r stoc dai ac sy'n creu problem.

"Mae o'n poethi'r farchnad ac yn cyfrannu at y cynnydd mewn prisiau, sydd yn eithrio pobl leol o'r gallu i fedru prynu tŷ ac hefyd yn creu problem gymdeithasol.

"Mae 'na strydoedd cyfan mewn pentrefi a threfi sydd bellach yn beth fysa rhywun yn ei alw'n dai gwag."