Tân gwyllt yn saethu o'r dorf yng ngêm Cymru v Gwlad Pwyl
Dyma'r foment y cafodd tân gwyllt ei gynnau yn ystod gêm bêl-droed rhwng Cymru a Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd nos Sul.
Cadarnhaodd Heddlu'r De fod saith o gefnogwyr yn eisteddle'r ymwelwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi'u harestio, a bod pedwar wedi eu cyhuddo o fod â dyfeisiadau tân gwyllt yn eu meddiant.
Cafodd y tri arall eu harestio am fod yn feddw ac afreolus, trosedd hiliol o dan y drefn gyhoeddus, ac o fynd ar y cae.
Fideo gan Phil Hen.