Beirniadu diffyg trenau rhwng gogledd Cymru a Llundain
Bydd teithwyr trên y gogledd yn wynebu rhagor o oedi dros y misoedd nesaf wrth deithio i Lundain.
Ganol mis Awst fe wnaeth cwmni Avanti West Coast dorri traean eu gwasanaethau a stopio gwerthu tocynnau o flaen llaw oherwydd prinder staff.
Wrth i'w ryddfraint ddod i ben ganol Hydref, mae 'na alwadau i beidio rhoi cytundeb newydd i'r cwmni.
Ar hyn o bryd dim ond un trên y dydd sy'n mynd o Fangor i Lundain yn uniongyrchol, sy'n gadael toc wedi 06:15.
Ar ôl hynny mae teithwyr yn gorfod newid trenau yng Nghaer, ac yn aml yn gorfod newid yn Crewe hefyd.
Dywedodd Avanti wrth Newyddion S4C eu bod yn ymwybodol nad ydy'r gwasanaeth yn ddigon da ar hyn o bryd, ac mai'r gobaith yw y byddan nhw'n gallu cynnig teithiau ychwanegol fis Rhagfyr.