'Balchder' Ann Atkinson o ddod yn Gymrawd yr Academi Frenhinol
Mae'r gantores ac arweinydd corau, Ann Atkinson, wedi bod yn siarad am ei "balchder a rhyfeddod" wrth gael ei gwneud yn Gymrawd yr Academi Gerddorol Frenhinol yn Llundain.
Yn gyn-fyfyriwr yn yr academi, fe aeth Ann ymlaen i gael gyfra lwyddiannus fel mezzo soprano aeth â hi i bob cwr o'r byd.
Bu hefyd wedyn yn arweinydd ar sawl côr, gan gynnwys Côr Meibion Froncysyllte, ac yna Côr Meibion Trelawnyd a Côr Meibion Bro Glyndŵr.
Mae bellach hefyd yn rhedeg Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy, fu'n dathlu eu hanner can mlwyddiant eleni.