Beth yw effaith bosib gostyngiad yng ngwerth y bunt?
Mae Banc Lloegr yn camu i'r adwy mewn ymgais i sefydlogi'r marchnadoedd arian yn sgil y toriadau treth y cyhoeddodd y Canghellor, Kwasi Kwarteng yn ei 'gyllideb fach' ddydd Gwener.
Mae'r sefydliad yn prynu meintiau di-ben-draw o ddyledion tymor hir Llywodraeth y DU ar ffurf bondiau.
Ond wrth wneud hynny roedd yna rybudd bod "risg ddifrifol" i sefydlogrwydd ariannol y DU os fydd yr ansicrwydd cyfredol yn parhau.
Mae'r Canghellor yn dweud ei fod yn cydweithio'n agos gyda Banc Lloegr, gan roi addewid yn ystod cyfarfod gyda bancwyr o America bod yna addewid gan y llywodraeth i fod yn ddisgybledig yn ariannol.
Serch hynny, mae ansicrwydd yn debygol o barhau ar lawr gwlad wrth i bobl boeni am eu sefyllfa ariannol mewn cyfnod mor dymhestlog.
Dyma gipolwg Maia Davies o dîm Cymru Fyw ar rai o effeithiau gostyngiad yng ngwerth y bunt ar ein bywydau bob dydd.