Rhieni April Jones wedi bod yn 'amazing'

Mae swyddog arbenigol, a fu'n gyswllt rhwng yr heddlu â theulu April Jones, wedi siarad yn agored am y profiad - a hynny union 10 mlynedd wedi diflaniad y ferch bump oed o Fachynlleth.

Mewn cyfweliad arbennig gyda BBC Cymru, dywed Hayley Heard - swyddog CID sydd bellach wedi ymddeol - mai dyma'r "peth gwaetha' i fi orfod delio gyda fe".

Diflannodd April Jones ar 1 Hydref, 2012.

O fewn wythnos roedd y llofrudd, Mark Bridger, wedi cael ei arestio a'i gyhuddo o'i llofruddio.

Cafodd ddedfryd o garchar gydol oes am ei lladd. Dyw corff April erioed wedi cael ei ddarganfod.