'Derbyn clec ariannol bil ynni er budd cwsmeriaid'
Daeth y cap ar brisiau ynni i rym ar draws y DU ddydd Sadwrn 1 Hydref, sy'n golygu bod nifer fawr o gwsmeriaid yn dal yn wynebu cynnydd sylweddol yn eu biliau nwy a thrydan y gaeaf yma.
Yn achos defnyddwyr domestig nad sydd ar delerau sefydlog, mae'n golygu cost o £2,500 y flwyddyn i'r cartref arferol - cynnydd o 27% - ond mae'r gwir filiau'n dal yn dibynnu ar faint o ynni y mae pob cwsmer yn ei ddefnyddio.
Yn achos busnesau fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun fis diwethaf i sicrhau y bydd eu biliau ynni tua hanner yr hyn oedd i'w ddisgwyl yn wreiddiol dros y gaeaf.
Fis yn ôl fe ddisgrifiodd y cigydd Ieuan Edwards, cyfarwyddwr cwmni Edwards o Gonwy, wrth BBC Cymru ei sioc o gael amcan bris o bron i £800,000 am flwyddyn wrth i'w gytundeb blaenorol ddod i ben.
Erbyn hyn mae wedi llwyddo i gael pris o lai na £500,000 y flwyddyn - ond mae hynny'n dal yn sylweddol uwch na'i fil o £129,000 y llynedd.
Dywedodd ar raglen Dros Frecwast ei fod, "fel pob cwmni", wedi gorfod pasio rhywfaint o'r gost ychwanegol i'w gwsmeriaid.
Ond mae wedi penderfynu peidio codi prisiau ymhellach dros y cownter er mwyn diolch iddyn nhw am eu "cefnogaeth frwd dros y blynyddoedd".