Canser y coluddyn: 'Hollbwysig' ehangu sgrinio
Mae dynes a gollodd ei chwaer i ganser y coluddyn wedi disgrifio penderfyniad Llywodraeth Cymru i ehangu sgrinio ar gyfer y clefyd fel cam "hollbwysig" fydd yn "achub bywydau".
O ddydd Mawrth ymlaen bydd pawb sy'n 55 oed a hŷn yn gymwys i dderbyn profion cartref i sgrinio am ganser y coluddyn yn dilyn buddsoddiad gan y llywodraeth.
Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru wedi ei groesawu gan deulu Carys Evans, fu farw o ganser y coluddyn y llynedd yn 41 oed.
Yn wreiddiol o Lanfairpwll, roedd Carys wedi ymgartrefu ym Mrynbuga ac wedi priodi a chael dwy o ferched - Mari a Haf.
Er na fyddai Carys wedi bod yn gymwys a hithau ond yn 41 oed, mae'n gam i'r cyfeiriad cywir meddai ei chwaer, Gwenno Eyton Hodson.