'Truss yn iawn i ddal ati gyda'i pholisïau economaidd'
Bydd y Prif Weinidog Liz Truss yn annerch cynhadledd y Ceidwadwyr ddydd Mercher gan ddweud y bydd yr "amharu" sydd wedi'i achosi gan ei pholisïau economaidd "o fudd i bawb" yn y pendraw.
Y siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher dywedodd yr is-weinidog yn Swyddfa Cymru ac AS Ceidwadol Mynwy David TC Davies ei bod yn "anffodus" fod rhai aelodau'r blaid wedi beirniadu Ms Truss a hithau megis dechrau ar y swydd.
Dywedodd ei bod yn iawn fod y llywodraeth yn "stick to their guns", a bod "problemau enfawr" wedi deillio o ryfel Rwsia yn Wcráin.
Ychwanegodd ei fod yn cydnabod fod yr economi mewn cyflwr bregus a bod "yr holl wlad yn teimlo pryder am yr hyn sy'n digwydd", ond y bu'n rhaid benthyg arian i ariannu cynlluniau ynni'r llywodraeth.
Er mwyn talu i roi cymorth i bobl gyda'u biliau, dywedodd Mr Davies fod dau opsiwn, sef benthyg yr arian neu godi trethi, a "does neb eisiau mwy o drethi".