'Gobeithiol am ddyfodol siop' wrth iddi newid dwylo

Mae siop lyfrau Cymraeg yn Llangefni ym Môn yn wynebu pennod newydd wrth iddi newid dwylo am y tro cyntaf mewn 32 mlynedd.

O ddydd Llun bydd Cwpwrdd Cornel yn nwylo perchnogion Awen Menai, sef siop Gymraeg arall rhyw saith milltir i ffwrdd ym Mhorthaethwy.

Sefydlwyd y siop yn Llangefni hanner can mlynedd yn ôl, gyda Dylan Morgan yn cymryd yr awenau yn 1990.

Dros 32 mlynedd mae sawl newid wedi bod, meddai Mr Morgan, gydag oes y casét a'r tapiau VHS yn cael ei disodli gan gryno ddisgiau a DVDs.

Ond mae gwerthiant llyfrau'n parhau yn sefydlog, meddai, ac mae'n obeithiol am y dyfodol.