Siwan Lillicrap: 'Bydde tad-cu wedi bod yn browd'
Mae capten Cymru wedi siarad am yr wythnos anodd mae wedi ei chael yn dilyn colled ei thad-cu yn ddiweddar.
Dywedodd Siwan Lillicrap mai Arthwel Williams oedd un o'i chefnogwyr pennaf, gan ddisgrifio'r sioc cyn ail gêm Merched Cymru yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd.
Enillodd merched Cymru yn eu gêm agoriadol yn erbyn Yr Alban ddydd Sul.
Ond mae her anoddach yn eu hwynebu y penwythnos hwn gyda Chymru erioed wedi curo'r Black Ferns mewn pedwar cynnig, gan golli eu gêm ddiwethaf o 44-12 yn ystod Cwpan y Byd 2017.
Er hynny, dywedodd y capten ei bod yn fraint cael arwain ei gwlad ar y lefel uchaf yn erbyn un o fawrion y gamp.