Pam fod llai o blant yn gwneud ymarfer corff?

Dydy dros draean o blant ysgol ddim yn gwneud ymarfer corff y tu allan i'w gwersi, yn ôl arolwg newydd.

Roedd Chwaraeon Cymru wedi holi 116,000 o bobl ifanc rhwng saith ac 16 oed gyda'r nifer wedi cynyddu o 28% yn 2018 i 36% erbyn hyn.

Beth ydy'r farn felly yn Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad yng Nghaerdydd?