Mwy o bobl anabl yn wynebu troseddau casineb
Mae nifer y troseddau casineb sy'n ymwneud â phobl ag anableddau wedi cynyddu o 16% yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
Y llynedd fe gafodd dros 3,000 o achosion eu cyfeirio at yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Ant Evans o Gaernarfon - sy'n byw efo'r cyflwr hydrocephalus - ei bod hi'n bwysig codi ymwybyddiaeth fel bod pethau tebyg ddim yn digwydd yn y dyfodol.
"Dyna un penderfyniad gwnes i ar ôl cael cyhuddiad un tro o ddweud celwydd am natur fy anableddau - wnes i benderfynu bod hyn ddim yn iawn ac mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth cadarnhaol ynglŷn â hyn a bod rhaid i mi godi ymwybyddiaeth, rhaid i mi addysgu pobl.
"Wedyn edrychais i ar yr adnoddau oedd ar gael i addysgu pobl ynglŷn â'r cyflwr dwi'n byw efo o ddydd i ddydd a doedd 'na ddim byd - hyd y gwela'i - yn y Gymraeg, ac felly wnes i ffilmio fideos ar YouTube yn esbonio sut yw fy mywyd i go iawn a'r profiad o fyw efo'r cyflwr yma o ddydd er mwyn addysgu pobl os ddim byd arall.
"Rhan o'r rheswm tu ôl i'r profiadau dwi wedi cael yw diffyg ymwybyddiaeth, diffyg addysg, a diffyg cydymdeimlad mewn cymdeithas, ac felly os dwi'n gwneud hyn - o bosib fydd pethau'n gwella."