Costau byw: 'Mynd heb lot er mwyn y plant'
Mae arweinwyr iechyd yn dweud bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith ar iechyd y genedl yn barod, ac mae pryder y bydd yn gwaethygu'r anghydraddodebau cymdeithasol yn sgil Covid-19.
Yn ôl un fam sy'n defnyddio banc bwyd yng Nghaernarfon, mae'r argyfwng yn cael effaith ar ei hiechyd gan ei bod yn "mynd heb lot er mwyn y plant".
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n gwario dros £1.6bn ar daclo'r cynnydd mewn costau.
Maen nhw hefyd yn edrych ar gynllun hirdymor i drechu tlodi.