Merched Cymru wedi 'ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf'
Colli o 2-1 oedd hanes merched Cymru yn y Swistir nos Fawrth, a cholli ar y cyfle i gyrraedd Cwpan y Byd hefyd.
Ond, mae Angharad James yn "gobeithio" fod y tîm wedi "ysbrydoli ar gyfer y dyfodol".
"Pan ni'n edrych 'nôl, ni wedi ysbydoli'r bobl ifanc, y chwaraewyr sydd i ddod nesaf.
"Dw i mor falch o'r merched, y staff i gyd, ni'n dîm enfawr a ni 'di gweithio mor galed yn y flwyddyn ddiwethaf."