Mark Drakeford yn ymateb yn gandryll i Andrew RT Davies
Fe wnaeth y prif weinidog ymateb yn gandryll i gwestiynau gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ddydd Mawrth.
Cyhuddodd Mark Drakeford plaid Andrew RT Davies o wneud llanast gyda chyllideb ac enw da'r Deyrnas Unedig.
Cafodd y ddau drafodaeth danllyd lle alwodd Mr Davies am ddatrysiad i amseroedd aros hir y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru.
Bu'n rhaid i Lywydd y Senedd, Elin Jones, ofyn i aelodau yn y siambr dawelu.