Ail gartrefi: Cymunedau 'o dan bwysau dychrynllyd'

Mae gan gynghorau Cymru yr hawl bellach i reoli nifer yr ail gartrefu a thai gwyliau yn eu cymunedau.

O ddydd Iau 20 Hydref, bydd cynghorau'n gallu gorfodi unrhyw un sy'n newid defnydd cartref i fod yn dŷ gwyliau, ail gartref neu lety gwyliau, sicrhau caniatâd cynllunio yn gyntaf.

Yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y Blaid Lafur â Phlaid Cymru yn y Senedd, yr awdurdodau unigol fydd yn penderfynu a ydyn nhw am ddefnyddio'r grymoedd newydd neu beidio.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru dywedodd yr ymgynghorydd cynllunio, Mark Roberts, fod cymunedau dan bwysau dychrynllyd.

Darllenwch y stori y