Technoleg 'deepfake' yn gynyddol targedu pobl gyffredin

Mae pryderon fod technoleg yn cael ei ddefnyddio i droi lluniau diniwed o fenywod yn ddelweddau pornograffig, ac yn cael eu rhannu ar-lein er mwyn niweidio pobl.

Bydd rhaglen Deepfake Porn: Could you be next? ar BBC Three nos Wener yn ymchwilio i'r maes yma.

Dywedodd cyflwynydd y rhaglen, Jess Davies, ar raglen Dros Frecwast fore Gwener fod y dechnoleg yn aml yn targedu gwleidyddion neu selebs, ond ei fod yn targedu pobl gyffredin yn fwyfwy aml hefyd.

Gyda defnydd cynyddol pobl o wefannau cymdeithasol fel Instagram a TikTok, mae hynny'n rhoi "lot o gynnwys" i bobl sy'n gwneud delweddau o'r fath, meddai.