Y ras i rif 10: 'Gofidio'n fawr ac yn falch nad wyf yn AS'

Bu Liz Truss yn "anghyfrifol" wrth "wario beth nad oedd yn ei phoced" yn ôl cyn-Dwrnai Cyffredinol a chyn-AS Llafur.

Ar ôl iddi ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Geidwadol a phrif weinidog yr wythnos ddiwethaf, bu'r Arglwydd John Morris yn siarad ar raglen Dros Frecwast.

Yn dilyn cwymp y marchnadoedd ariannol er gwaethaf cynlluniau Ms Truss i hybu twf, dywedodd yr Arglwydd Morris ei fod yn gofidio am bobl dros y gaeaf.

"Mae'r graddfa hwn yn trywanu bywyd economaidd pobl gyffredin," dywedodd.