Bywyd 'mewn limbo' i bobl mewn llety dros dro
Mae ymchwil gan BBC Cymru'n dangos bod nifer y bobl sy'n cael eu gosod mewn llety dros dro wedi codi'n aruthrol mewn dwy flynedd.
3,588 o bobl yng Nghymru oedd yn byw mewn llety dros dro ym mis Awst 2020.
Erbyn Awst eleni, roedd y ffigwr hwnnw wedi codi i 8,545, gan gynnwys 2,515 o blant.
Yn wyneb prinder tai cymdeithasol, mae awdurdodau lleol yn gorfod gosod teuluoedd mewn gwestai sydd heb adnoddau ar gyfer paratoi bwyd na golchi dilliad.
Dyna oedd sefyllfa Ceri, o Wynedd, a dreuliodd pedwar mis mewn llety dros dro gyda'i babi newydd-anedig ar ôl dod yn ddigartref.