Ken Owens yn falch o fod 'nôl yn cynrychioli Cymru
Mae bachwr Cymru a'r Scarlets, Ken Owens, yn dweud ei fod yn falch o fod 'nôl yn chwarae wedi bron i flwyddyn allan gydag anaf i'w gefn.
Mae Owens, 35, yn ôl yng ngharfan Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref wedi iddo fod yn absennol am 11 mis.
Er mai dim ond yn ddiweddar mae'r bachwr wedi dychwelyd i chwarae i'r Scarlets, dywedodd ei fod yn barod am yr her o gynrychioli ei wlad dros yr wythnosau nesaf.
Bydd Cymru'n herio Seland Newydd ddydd Sadwrn, cyn croesawu Ariannin, Georgia ac Awstralia i Gaerdydd cyn diwedd y mis.