'Mae Clara ond yn gallu gwylio'i chwiorydd yn chwarae'

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn "ymrwymo i wella'r cyfleoedd" i bob plentyn gael chwarae wedi i bryderon godi bod yna ddiffyg adnoddau mewn parciau sy'n creu rhwystrau i blant anabl a'u teuluoedd.

Fe ddylai'r llywodraeth glustnodi £7m i greu parciau hygyrch i bawb, medd yr elusen Scope, sy'n ymgyrchu i newid agweddau negyddol tuag at anabledd.

Yn ôl elusen arall - Anabledd Cymru - mae'r sefyllfa'n waeth yng Nghymru, gan fod yna llai o feysydd chwarae newydd.

Mae mam o Aberaeron, Sera-Jane Thomas yn dweud ei bod yn osgoi mynd â'i phlant i'r parc am ei bod yn teimlo "euogrwydd" na allai ei merch pedair oed, Clara, gael yr un hwyl â'i chwiorydd.