Pam fod Cwpan y Byd Qatar 2022 mor ddadleuol?

Mae lleoliad twrnament Cwpan y Byd Qatar 2022 eleni wedi bod yn bwnc dadleuol ers blynyddoedd.

Oherwydd y gost o deithio, materion hawliau dynol a moesoldeb, fydd rhai o gefnogwyr Cymru ddim yn teithio.

I eraill, mae'r demtasiwn o weld Cymru yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd yn ormod.

Dyma ein gohebydd, Meleri Williams, i egluro'r cyfan.