Neco Williams yn rhan o 'griw arbennig iawn iawn'

Wrth i Gymru baratoi i enwi'r garfan fydd yn teithio i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd, mae rhieni'r amddiffynnwr ifanc Neco Williams wedi bod yn son am eu balchder dros eu mab.

Mae Williams yn un o'r rhai sydd wedi dod drwy rengoedd Cymru dros y blynyddoedd, a'r disgwyl yw y bydd yn rhan o garfan Rob Page ar gyfer y gystadleuaeth.

Dywed Cledwyn Ashford, aelod o dîm sgowtio Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Wrecsam, fod Cymru wedi bod yn gweithio yn galed ar ddatblygu talentau ifanc ers 1991.

Ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru bu'n son am "griw arbennig" - yn cynnwys Neco Williams - gafodd eu cyfle dan Osian Roberts, cyn is-hyfforddwr Cymru.