'Dim digon o ddiogelwch ym Magaluf'

Mae un oedd yn byw ac yn gweithio fel dawnswraig mewn clybiau nos ym Magaluf, Sbaen yn dweud bod angen mwy o swyddogion diogelwch yno.

Daw sylwadau Hannah Beth o Lantrisant ar ôl i ddyn o Gaerdydd - a dreuliodd dridiau mewn coma ym Magaluf - rybuddio pobl ifanc i fod yn ofalus tra ar wyliau yno.

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Hannah: "Yn hanesyddol, mae e'n un o'r llefydd 'na lle mae pobl yn mynd i gael gwyliau, i yfed, ble ma' nhw mas 'sbo oriau mân y bore."

"Roedd e'n gallu bod yn brysur ofnadwy a mi roedd 'na ambell i glwb ble o'dd pobl yn byrlymu allan o'r lle a o'dd dim digon falle' o bois security a bouncers o gwmpas."