'Dim byd yn well' na treulio mis mêl yng Nghwpan y Byd
Fe briododd Beca a Richard Thomas ryw bythefnos yn ôl. Fel cefnogwyr y tîm pêl-droed cenedlaethol doedd ond un lle roedden nhw'n dymuno treulio'u mis mêl unwaith y bachodd Cymru le yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
Roedd yn rhaid gweld Cymru'n cystadlu ar lefel uchaf y gamp am y tro cyntaf ers 1958, ac felly maen nhw'n aros yn Dubai, gan hedfan i Qatar er mwyn gwylio'r gemau.
Mae ambell westai o'r briodas hefyd yn aros yn yr un lle, gan gynnwys eu ffrind Gareth.
"Pleser bod yma a bod yn rhan o'r profiad mas yn Dubai," meddent wrth raglen Dros Frecwast.
"S'dim byd gwell na syportio Cymru - a bod yn rhan o'r mis mêl!"
Mae'r tri'n cytuno bod y profiad o ddilyn tîm Robert Page mewn cystadleuaeth mor bwysig wedi bod yn "anhygoel" hyd yn hyn.