'Buddugoliaeth' cael gwisgo'r enfys i gêm Cymru ac Iran
Mae'r Athro Laura McAllister, sy'n gyn-gapten ar dîm pêl-droed merched Cymru, wedi disgrifio'r sicrwydd y bydd hetiau enfys yn cael eu caniatáu yng ngêm Cymru ac Iran yn "fuddugoliaeth".
Mae symbolau lliw enfys, fel hetiau a baneri, yn cael eu gwisgo a'u defnyddio gan gefnogwyr LHDTC+.
Cyn gêm Cymru'n erbyn UDA, dywedodd Laura McAllister iddi gael ei thrin yn "llawdrwm" pan ofynnodd staff diogelwch iddi dynnu ei het.
Fore Gwener, dywedodd fod y tro pedol gan FIFA yn "bwysig iddi".
"Os 'dyn ni'n dod i le fel hwn, mae'n bwysig i ni fyw ein hegwyddorion ni."