Angen adeiladu ar 'waddol iaith' Cwpan y Byd

Er gwaetha'r siom fod Cymru allan o Gwpan y Byd, un o ganlyniadau anuniongyrchol presenoldeb y Wal Goch yn Qatar ydy'r cynnydd mewn ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg.

Mae ymgyrchwyr iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar y gwaddol hwnnw a sicrhau bod pob plentyn fydd yn cael addysg yng Nghymru yn y dyfodol yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod angen sicrhau y bydd pob ysgol yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050.

Meddai Osian Rhys o'r mudiad: "Mae Cwpan y Byd wedi amlygu'r teimlad o falchder sydd ganddo ni yn yr iaith.

"Mae hefyd wedi amlygu'r rhaniad sydd ganddo' ni ble mae cymaint o bobl sy'n teimlo bod yr iaith ddim ganddyn nhw, a 'da ni'n galw am Ddeddf Addysg Gymraeg sy'n golygu bod pawb yn dod yn rhugl yn Gymraeg erbyn iddyn nhw adael ysgol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae llwyddiant Cymraeg 2050 yn gofyn am gamau gweithredu a newidiadau pellgyrhaeddol, ac rydyn ni wedi ymrwymo i helpu ein hysgolion a'n gweithlu yn eu hymgais i sicrhau mwy o ddarpariaeth Gymraeg.

"Mae'r Gymraeg wrth galon ein cwricwlwm newydd, sy'n gosod camau cynnydd clir ar gyfer datblygiad yr iaith i'r holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg."