Tri pheth i'w gwylio yng nghanlyniadau'r Cyfrifiad am y Gymraeg

Canlyniadau'r Cyfrifiad am yr iaith Gymraeg fydd y prawf cyntaf o bolisi iaith Llywodraeth Cymru, yn ôl Dr Cynog Prys.

Mae'r arbenigwr o Brifysgol Bangor yn disgwyl i'r canlyniadau - fydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth - fod yn "gymharol gyson" gyda'r Cyfrifiad diwethaf yn 2011.

Ond dywedodd fod tri pheth yn arbennig i wylio amdanynt i weld pa mor agos yw Cymru at gyrraedd nod y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ffigyrau'r oedolion sy'n siarad Cymraeg, yr ystadegau yng nghadarnleoedd y Gymraeg a faint sy'n derbyn addysg yn Gymraeg yw'r meysydd fydd yn rhoi syniad o'r newid, yn ôl Dr Prys.

Ond fe bwysleisiodd mai dim ond "rhan o'r darlun" a gawn yng nghanlyniadau'r Cyfrifiad.