'Gwarthus' dewis rhwng therapi iechyd meddwl a gwres
Mae menyw o Geredigion sy'n gwario hyd at £100 yr wythnos ar therapi iechyd meddwl yn ystod argyfwng costau byw yn dweud nad yw hi'n defnyddio'i gwres canolog.
Yn 2019 fe gafodd Hedydd Elias wybod y byddai'n rhaid iddi aros dwy flynedd a hanner am therapi gyda'r gwasanaeth iechyd.
Yn ôl elusen Mind Cymru, ni ddylai unrhyw un orfod talu am gymorth sydd ei angen arnyn nhw, heb sôn am orfod dewis rhwng gwresogi eu cartref a thalu am driniaeth.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod wedi sefydlu llinell gymorth iechyd meddwl 24/7 yn ddiweddar a bod help ar gael yn syth i unrhyw un sydd mewn argyfwng.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi cyllid ychwanegol i bob bwrdd iechyd er mwyn lleihau rhestrau aros.
Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar Action Line y BBC.