'Tair ffordd' gan gynghorau i daclo toriadau ariannol
Mae arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, yn dweud y bydd awdurdodau lleol yn gorfod wynebu penderfyniadau ariannol anodd wrth i Lywodraeth Cymru baratoi ei chyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Dywedodd bod tair ffordd gan gynghorau i daclo gostyngiad sylweddol tebygol i'w cyllidebau - codi trethi cyngor, defnyddio arian wrth gefn, neu dorri gwasanaethau.
Gallai'r toriadau hynny i wasanaethau fod unrhyw le rhwng 6% a 20%, meddai, gyda'r cyngor am "geisio'n gorau i leihau unrhyw ddrwg effaith fydd yn deillio ohonyn nhw".