'Problemau iechyd meddwl yn aml yn deillio o dlodi'

Ni fydd iechyd meddwl pobl yn gwella oni bai bod materion fel tlodi a gwahaniaethu yn cael eu cynnwys yn strategaeth y llywodraeth, yn ôl pwyllgor Senedd Cymru.

Mae'r adroddiad gan y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol yn dweud fod meddyginiaeth yn aml yn cael ei ddefnyddio fel "rhwymyn", yn hytrach na mynd i'r afael â phroblemau sylfaenol.

Mae'r pwyllgor yn nodi nifer y grwpiau maen nhw'n dweud sy'n wynebu risg arbennig o anghydraddoldebau iechyd meddwl, gan gynnwys pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl a'r rheiny sy'n byw mewn tlodi.

Mae Naomi Lea, 24 o Gaerdydd, wedi byw gyda gorbryder ers yn 14 oed.

Fe wnaeth hi gyfrannu at adroddiad y pwyllgor, ac mae hi bellach yn gweithio i elusen Mind, ble mae hi'n gallu rhannu ei phrofiadau er mwyn helpu eraill.

Dywedodd ar Dros Frecwast fore Llun y byddai sicrhau fod neb yn byw mewn tlodi yn arwain at ostyngiad enfawr yn y nifer sydd angen cymorth iechyd meddwl.

Ychwanegodd bod angen i gymorth iechyd meddwl fod ar gael i bawb sydd ei angen - nid rheiny sy'n gallu fforddio talu amdano yn unig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod fod ffactorau gwahanol yn cael effaith ar anghydraddoldebau iechyd.