Streic ambiwlans: 'Da' ni 'di cael digon'
Mae cannoedd o weithwyr ambiwlans ar streic ddydd Mercher - y trydydd diwrnod o weithredu diwydiannol gan staff y gwasanaeth iechyd o fewn wythnos.
Mae disgwyl i 25% o staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru - y rheiny sy'n aelodau o undeb y GMB - fod ar streic.
Mae'r streic yn cael ei chynnal o hanner nos, nos Fawrth, nes hanner nos, nos Fercher, gyda pharafeddygon, cynorthwywyr gofal, technegwyr a staff corfforaethol yn cymryd rhan.
Un o'r rheiny ydy Aron Roberts, sydd ar y linell biced yn Llandudno.
"Da' ni 'di cael digon. Mae staff o dan andros o bwysau, sy'n cynyddu blwyddyn ar flwyddyn," meddai.
"Bob un diwrnod da' ni'n gweld pobl yn marw achos fedran ni ddim cyrraedd cleifion. Dydi'r un ohonan ni isio bod yma, ond dyma'r unig ffordd allwn ni gael ein lleisiau allan."
Ychwanegodd Llio Hafal, parafeddyg arall ar streic, bod cleifion yn "aros wyth, 10, 12 awr am ambiwlans" ar hyn o bryd, a bod rhaid newid.