Lleihau taleb sbectol yn gwneud i'r 'tlotaf dalu'

Mae cynlluniau i leihau faint o arian y byddai pobl dlotaf Cymru'n cael i brynu sbectol ar y gwasanaeth iechyd wedi cael eu beirniadu.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried lleihau gwerth y daleb bresennol o £39.10 i £22. Mae'r cynnig wedi cael ei ddisgrifio fel un "anghywir" mewn argyfwng costau byw.

Yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, mae'r cynllun yn gwneud i'r "mwyaf tlawd dalu am y newidiadau yma".

Dywedodd y llywodraeth fod y swm wedi ei gytuno gan y grŵp sydd yn cynrychioli optometryddion yng Nghymru.