Meddyg teulu: 'Tranc y GIG yn mynd ymlaen ers blynyddoedd'

Dywed meddyg teulu yn y gogledd fod "bwlch mawr" yn parhau rhwng gofal ysbyty a gofal yn y gymuned.

Mae Dr Eilir Hughes wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ryddhau rhai cleifion ysbyty heb becyn gofal.

Ond pwysleisiodd "na ddylai fod yn ateb hir dymor" i'r pwysau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio'r sefyllfa bresennol fel un "digynsail" yn sgil pwysau eithriadol, gyda dros 500 o achosion Covid wedi eu cadarnhau o fewn ysbytai Cymru ynghyd â feirysau eraill fel ffliw.

Dywedodd Dr Hughes, sy'n gwasanaethu yn ardal Nefyn yn Llŷn, bod hi'n "un creisis ar ôl y llall".

Ychwanegodd fod "tranc y gwasanaeth iechyd wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd".

"Mae hyn yn dangos fod y llywodraeth yn cydnabod lle mae'r broblem," meddai ar raglen Dros Frecwast.

"Ond mae'n naïf iawn i feddwl bod modd jyst gwthio pobl allan heb becynnau gofal ma' nhw eu hangen a credu y byddan nhw yn iawn ac y byddan nhw jyst yn mynd i allu copio.

"'Da ni'n gwybod gydag ymchwil fod y bobl hyn efo cyfradd uchel iawn o fod angen mynd yn ôl a dychwelyd i'r ysbyty."

Ychwanegodd: "Does 'na ddim byd cadarn fedr roi ffydd i'r rhai ohonon ni sydd dal yn y gwasanaeth iechyd bod 'na newydd da yn mynd i ddod ar droed."