Chwilio am 'stori gryf' i Gystadleuaeth Gohebydd Ifanc 2023

Gall cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y BBC 2023 fod yn gyfle i rywun adrodd stori "maen nhw'n teimlo'n gryf amdano", meddai'r newyddiadurwr a'r darlledwr Huw Edwards.

Un categori stori sydd i'r gystadleuaeth eleni, sef 'Fi A Fy Myd', fydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed yn y DU rannu syniad gwreiddiol am stori gyda'r BBC.

Bydd y straeon buddugol yn cael eu cynhyrchu gyda chymorth newyddiadurwyr, cynhyrchwyr a gwneuthurwyr rhaglenni'r BBC i'w darlledu ar y teledu, ar y radio, ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Ry'n ni'n gweld yn y gorffennol bod pobl eisiau dweud rhywbeth am eu hamgylchiadau eu hunain," meddai Huw Edwards.

"Mae'r cyn-destun yn ddigon eang, allwch chi 'neud be' chi moyn."