'Byddai'n drueni cyfyngu ar bwy sy'n cael IVF'
Fe allai menywod dros 40 oed a phobl sengl fod yn anghymwys i dderbyn triniaethau ffrwythlondeb ar y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol yng Nghymru dan gynigion sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd.
Fe allai'r cynlluniau hefyd lacio'r rheolau o ran Mynegai Màs y Corff (BMI) ac ehangu'r ystod derbyniol - cam a fyddai'n galluogi rhagor o gyplau heterorywiol i gael triniaeth.
Mae Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (PGAIC) yn ymgynghori ar y newidiadau posib, gan ddweud ei bod yn rhan arferol o'u gwaith i "adolygu polisïau yn gyson".
Maen nhw hefyd yn annog y cyhoedd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Mae rhai o'r cynigion yn "annheg", ym marn Sharlaine Quick-Lawrence, sy'n fam i ddau o fechgyn a gafodd eu geni wedi iddi dderbyn triniaeth IVF.