Ieuan Evans: Honiadau am ddiwylliant URC yn 'dorcalonnus'

Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Ieuan Evans, yn dweud ei fod yn "dorcalonnus" o glywed yr honiadau gafodd eu gwneud am y diwylliant o fewn yr undeb mewn rhaglen diweddar.

Daeth hynny wedi i raglen BBC Wales Investigates ddarlledu honiadau o ddiwylliant "gwenwynig" o fewn yr undeb, gan gynnwys casineb at fenywod, rhywiaeth, hiliaeth a homoffobia.

Dywedodd Mr Evans y byddai tasglu annibynnol, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, nawr yn mynd at wraidd y pryderon a godwyd am yr URC gyda'r gobaith o sicrhau'r "diwylliant" cywir o fewn y sefydliad sy'n groesawgar i bawb.

"Mae'r diwylliant yng nghanol popeth - fel ni'n bihafio, fel ni'n siarad, beth ni'n 'neud, fel ni'n rhedeg pethau," meddai.