Eisteddfod 'heb newid ein prisiau ers pum mlynedd'

Mae prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud y bydd yn rhaid i'r Brifwyl "edrych ar" eu prisiau mynediad eleni, wrth i gostau gynyddu yn sgil chwyddiant.

Dywedodd Betsan Moses nad oedden nhw wedi "newid ein prisiau ers pum mlynedd", ond y byddai pwyslais o hyd ar geisio sicrhau ei fod yn "fforddiadwy i bawb".

Rhybuddiodd hefyd fod yr heriau sy'n wynebu gwyliau ers Covid yn "parhau", ac felly bod "sôn am ddwy flynedd anodd arall o'n blaen ni".

Ychwanegodd fod yr Eisteddfod hefyd yn cynnal adolygiad o'i chystadlaethau, er mwyn "sicrhau bod gyda ni raglen sy'n edrych i'r dyfodol".