'Mae'n ddrwg gen i Cymru!': TikTok a thrip dynes o Ganada

Mae dynes o Ganada wedi ymweld â Chymru er mwyn dysgu mwy am y wlad ar ôl iddi wneud y camgymeriad o feddwl bod Cymru yn Lloegr.

Mae gan Pavlina Livingstone-Sudrich, o Whitehorse, Yukon, dros 200,000 o ddilynwyr ar TikTok.

Mewn fideo diweddar soniodd am offer i gynhesu oedd wedi ei wneud yng "Nghymru, Lloegr".

Ar ôl derbyn nifer o sylwadau am ei chamgymeriad, gan gynnwys fideo TikTok gan y Prif Weinidog Mark Drakeford, fe ymddiheurodd Pavlina - ac mae hi nawr yma i ddysgu mwy am ein gwlad!