Yr ymateb yn Aberystwyth i ddaeargryn Twrci a Syria

Wrth i'r chwilio barhau am ragor o bobl sydd yn dal i fod dan y rwbel yn dilyn y daeargryn sydd wedi taro Twrci a Syria, mae'r effaith yn cael ei deimlo yng Nghymru hefyd.

Bellach mae dros 11,000 o bobl wedi marw yn dilyn y drychineb, a beirniadaeth fod cymorth ddim wedi cael ei ddarparu'n ddigon sydyn yn y dyddiau wedi hynny.

Mae'r digwyddiad wedi effeithio ar gymunedau ar draws y byd, gan gynnwys Syriaid sydd bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth.

Fe wnaethon nhw ffoi o'u mamwlad er mwyn dianc rhag y rhyfel yno, ond nawr mae'n rhaid i'w perthnasau yn ôl adref ddelio gyda'r drasiedi ddiweddaraf i'w taro.

Adroddiad Craig Duggan i Newyddion S4C.