Gwerthu cwilt o dyweli cwrw C'mon Midffîld ar gyfer elusen
Mae cyfle unigryw wedi codi i brynu darn o hanes cyfres boblogaidd C'mon Midffîld gyda'r elw yn mynd at achos da.
Mae Dei Elfryn yn gwerthu blanced wedi'i wneud allan o dyweli cwrw o dafarn y Bull, Bryncoch a gafodd eu cynnwys yn y gyfres.
Yn ystod y 1990au roedd tad Dei, Morus Elfryn, yn gweithio ar gyfres C'mon Midffîld fel Rheolwr Cynhyrchu.
Bu farw Morus bron i flwyddyn yn ôl, a bydd elw ar ôl gwerthu'r flanced yn cael ei roi i elusen canser er cof amdano.
Un o olygfeydd enwocaf y gyfres yw pan mae Wali Thomas yn dweud wrth blismon mai ei enw yw 'Glyn Ffidich' wrth gael ei gwestiynu ar ôl aros yn y Bull wedi oriau cau.
Darllenwch: C'mon Midffîld: Cyfle i brynu darn o hanes