Beth mae lleihau'r cap ynni yn ei olygu i ni?
Mae'r uchafswm y gall cyflenwyr ei godi am ynni wedi'i dorri gan y rheoleiddiwr, Ofgem - ond bydd biliau'n dal i godi o fis Ebrill yn sgil lleihad yng nghefnogaeth y llywodraeth.
Oherwydd prisiau cyfanwerthu is, o fis Ebrill ymlaen bydd y cap chwarterol ar bris ynni yn syrthio o gyfartaledd o £4,279 i £3,280.
Nid yw cyhoeddiad Ofgem yn effeithio'n uniongyrchol ar yr hyn y mae cwsmeriaid yn ei dalu am bob uned o nwy a thrydan, serch hynny.
Ond mae'n lleihau'r costau y mae'r llywodraeth yn ei wynebu.
Yn siarad ar raglen Dros Frecast Radio Cymru dywedodd Fflur Lawton o Ynni Clyfar GB na fydd teuluoedd yn debygol o elwa o'r cap newydd yn y tymor byr.
"Mae'r gwarant pris ynni ar hyn o bryd yn £2,500 ar average ond mae'r cap ynni lot yn fwy na hynny, mae'r llywodraeth [wedi bod] yn talu'r ychwanegol fel bod biliau pobl ddim yn codi gormod," meddai.
"Mae'r pris cap ynni, ar hyn o bryd, dros £4,000.... ond wneith e ddim lot o wahaniaeth i'ch biliau chi oherwydd bod y gwarant pris ynni mewn lle.
"Ar ddechrau mis Ebrill mae'r gwarant pris ynni hefyd yn mynd i newid, felly fe welwn ni newid yn ein biliau ynni ni o 1 Ebrill.
"Mae'r gwarant pris ynni yn edrych fel bod e'n mynd i godi i rhyw £3,000, ac hefyd mae'r cynllun cymorth biliau ynni yn dod i ben ar ddechrau mis Ebrill.
"Mae'n hollbwysig bod ni'n dechrau deall ein biliau, beth y'n ni'n talu a sut y'n ni'n defnyddio'n ynni."
'Pwysau'n dechrau lleddfu'
Dywedodd Jonathan Brearley, Prif Swyddog Gweithredol Ofgem: "Er bod prisiau cyfanwerthu wedi gostwng, nid yw'r cap prisiau wedi disgyn yn is na'r lefel a gynlluniwyd yn y Gwarant Pris Ynni eto.
"Mae hyn yn golygu y bydd biliau'n debygol o godi eto ym mis Ebrill.
"Gwn y bydd y newyddion hwn yn peri pryder mawr i lawer o gartrefi.
"Fodd bynnag, mae'r cyhoeddiad heddiw yn adlewyrchu'r newid sylfaenol yng nghostau cyfanwerthu ynni am y tro cyntaf ers i'r argyfwng nwy ddechrau.
"Ac er na fydd yn gwneud gwahaniaeth uniongyrchol i ddefnyddwyr, mae'n arwydd bod rhywfaint o'r pwysau aruthrol sydd arnom ni, a welwyd yn y marchnadoedd ynni dros y 18 mis diwethaf, yn dechrau lleddfu.
"Os fydd y gostyngiad mewn prisiau cyfanwerthu rydym yn ei weld ar hyn o bryd yn parhau, mae'r arwyddion yn gadarnhaol y bydd y cap pris yn gostwng eto yn yr haf, gan ddod â biliau'n sylweddol is o bosib."