Y profion a allai leihau 'gwewyr' i gleifion canser
Bydd 200 o bobl yn ardal Abertawe sydd wedi goroesi canser y coluddyn ymhlith y cyntaf yn y DU i gael cynnig prawf gwaed newydd i sicrhau fod yr afiechyd heb ddychwelyd.
Mae criw o wyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn gobeithio cynnig y profion dros y misoedd nesaf, gyda'r gobaith o'u cynnig i fwy o gleifion os oes llwyddiant.
Dan y canllawiau presennol mae pobl sy'n goroesi canser y coluddyn yn cael profion rheolaidd - colonoscopi neu sgan - ar ôl gwella.
Ond yn sgil y pandemig Covid-19 mae nifer wedi gorfod aros yn hirach am y fath brofion na'r cyfnod y mae'r canllawiau yn ei awgrymu.
Mae'r profion yn cael eu hariannu gan y cwmni nid-er-elw Moondance Cancer Initiative.
Prif weithredwr y cwmni, Sara Moseley, sy'n esbonio pam eu bod wedi penderfynu buddsoddi yn y cynllun yn Abertawe.