Betsi: 'Dim dewis ond gweithredu wedi adroddiad damniol'

Dywed y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, nad oedd dewis gan Lywodraeth Cymru ond ailgyflwyno mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwladr wedi adroddiad damniol yn beirniadu'r arweinyddiaeth.

"O'dd e'n gwbl glir bod y bwrdd yn dysfunctional - bod angen i ni gamu mewn a sicrhau bod yna arweinyddiaeth newydd er mwyn mynd â'r bwrdd yma i le newydd," meddai ar raglen Dros Frecwast.

Dyfed Edwards sydd wedi'i benodi fel cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gyda Gareth Williams, Karen Balmer a Rhian Watcyn Jones yn aelodau annibynnol interim.

Mae rhai wedi beirniadu'r gweinidog iechyd am ofyn i aelodau annibynnol o fwrdd iechyd y gogledd gamu o'r neilltu.

Ond dywed Eluned Morgan nad oedd hawl ganddi ymyrryd yn rheolaeth y bwrdd yn uniongyrchol.

DARLLENWCH: Helynt Betsi Cadwaladr yn 'drychinebus a gwarthus'